Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd
Ffoaduriaid - cynnig croeso Cymreig
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel ddydd Mercher 7 Hydref rhwng 12.30 a 13.45
Yn bresennol:
1. Amal Beyrouty, Women Connect First
2. Andrea Adams, Llywodraeth Cymru
3. Carol Godfrey, Llywodraeth Cymru
4. Carys Moseley, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
5. Claire Cartwright, Y Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol, yr Eglwys yng Nghymru, Esgobaeth Llandaf
6. Darren Millar, AC y Ceidwadwyr dros Orllewin Clwyd (Cadeirydd)
7. David Forward, Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf
8. Dylan Moore, Sanctuary, Casnewydd
9. Elfed Godding, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cynghrair Efengylaidd Cymru
10. Elinor Harris, Cydlynydd Dinasoedd Lloches Cymru, Alltudion ar Waith (Llefarydd)
11. Glyn Jones, Cenhadaeth Uniongred Cymru, Blaenau Ffestiniog
12. Jim Stewart, Swyddog Eiriolaeth a Materion Cyhoeddus, Cynghrair Efengylaidd Cymru (Ysgrifennydd)
13. Jonathan Durley, Swyddog Datblygu Cymunedol, yr Eglwys yng Nghymru, Esgobaeth Llandaf
14. Julie Jones, Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf
15. Mark Symonds, Byddin yr Iachawdwriaeth
16. Mavis Harris, Cardiff Watch
17. Mia Rees
18. Mohammad Asghar AC
19. Pat Dunmore, Swyddog Polisi, Cyngor Ffoaduriaid Cymru
20. Rachel Orphan, profiad gwaith
21. Y Parch Carol Wardman, Cynghorydd Esgobion ar yr Eglwys a Chymdeithas, yr Eglwys yng Nghymru
22. Y Parch David Brownnutt, Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, Rhondda
23. Y Parchedig Ddoctor Philip Manghan, Cynghorwr y Gwasanaeth Addysg Gatholig dros Gymru, Archesgobaeth Gatholig Caerdydd
24. Y Parch Pete Orphan, Gweinidog Eglwys y Bedyddwyr Pantygwydr, Abertawe
25. Y Parch Peter Noble, Caplan yn y Bae
26. Russell George AC
27. Sarah Wheat, Yr Eglwys yng Nghymru, Esgobaeth Llanelwy
28. Stanley Soffa, Cadeirydd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru
Ymddiheuriadau
1. Ellana Thomas
2. Y Tad Deiniol, Cenhadaeth Uniongred Cymru
3. Gwenda Thomas AC
4. Aled Edwards, Prif Weithredwr, Cytûn
5. John Davies, Esgob Aberhonddu ac Abertawe
6. Rocio Cifuentes, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Abertawe
7. Christine Abbas, Cymdeithas Baha'i Cymru
8. Gethin Rhys, Cytûn
9. Ian Govier, Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf
10. Mari MacNeill, Cymorth Cristnogol
11. Sharon Lee, Housing Justice
Nid yw'r Grŵp Trawsbleidiol hwn yn gwahaniaethu rhwng aelodau'r grŵp a gwesteion allanol, gan fod y lleoedd yn y cyfarfodydd yn cael eu llenwi ar sail y cyntaf i'r felin.
Cofnodion
1. Estynnodd Darren Millar AC groeso i bawb, gan nodi unrhyw ymddiheuriadau.
2. Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw faterion yn codi o'r cyfarfod blaenorol.
3. Cyflwynodd y Cadeirydd y siaradwr, Elinor Harris o Alltudion ar Waith, a roddodd gyflwyniad ar "Cynnig croeso Cymreig"
4. Rhoddodd Carol Godfrey o Lywodraeth Cymru y wybodaeth ddiweddaraf am yr uwch-gynhadledd ddiweddar ar ffoaduriaid a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru
5. Cafwyd trafodaeth a sesiwn hawl i holi ar ôl y cyflwyniad.
6. Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol:
a. Elinor Harris i ddosbarthu taflen beth gallwn ni'i wneud
b. Elinor Harris i ddosbarthu rhestr o sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt ymhlith pawb a oedd yn bresennol
c. Pat Dunmore o Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ddosbarthu canllaw chwalu'r mythau ymhlith pawb a oedd yn bresennol
d. Pat Dunmore o Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ddosbarthu rhestr o sefydliadau cyfreithiol y gellir ymddiried ynddynt ymhlith pawb a oedd yn bresennol
e. Llywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer mapio
7. Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a llenwyd y swyddi canlynol:
a. Ailetholwyd Darren Millar AC yn Gadeirydd.
b. Etholwyd Mohammad Asghar yn Is-gadeirydd
c. Ailetholwyd Jim Stewart yn Ysgrifennydd
8. Daeth Darren Millar AC â'r cyfarfod i ben, gan nodi y byddai manylion y cyfarfod nesaf yn cael eu dosbarthu drwy e-bost gan Jim Stewart.